Adnewyddu Awditoriwm

Y bwriad gan Theatr Fach Llangefni ydi adnewyddu awditoriwm y theatr ar gyfer y cyhoedd yn Llangefni a thu hwnt.

Mae'r theatr yn denu cannoedd o bobl yn flynyddol i sioeau a digwyddiadau amrywiol, ond mae na angen dirfawr arnom i adnewyddu'r seddi a llawr yr awditoriwm sydd yn hen iawn erbyn hyn.

Mae'r pantomeim blynyddol yn denu bron i fil o bobl yn flynyddol a gyda'r theatr yn dathlu 70 mlynedd yn 2025, mi fydd na lot fawr o ddefnydd o'r awditoriwm. Felly mi fyddai'n wych gallu diogelu'r gofod pwysig hwn a sicrhau fod y lle yn addas ar gyfer y dyfodol.

Why the contribution is important

Mae Theatr Fach Llangefni yn rhan annatod o gymuned Llangefni, rydym yn hwb cymunedol sy'n llogi'r lleoliad i grwpiau ac unigolion ac yn denu llawer iawn o sioeau proffeisynol ac amatur ar y llwyfan yn flynyddol.

Fel elusen gofrestredig sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr mae'n heriol iawn rhedeg canolfan sydd yn hen bellach ac yng nghanol argyfwng costau byw, a felly mae'n bwysig ein bod yn ymgeisio am grantiau i sicrhau dyfodol yr adeilad i bobl o bob oedran ac i sicrhau parhad i'r lleoliad i'r genhedlaeth nesaf.

Wedi 70 o flynyddoedd, mae na angen sylweddol am awditoriwm newydd fydd yn sicrhau ein bod yn gallu cynnig y profiad gorau posib i'n cynulleifaoedd ni

by TheatrFach on November 29, 2024 at 11:10AM

Current Rating

Average rating: 5.0
Based on: 9 votes

Comments

Log in or register to add comments and rate ideas