Telerau Defnydd - Terms of Use
Rydym ni, Medrwn Môn a Chymdeithas Elusennol Ynys Môn yn darparu gwasanaeth o'r enw App Deialog ("y Gwasanaeth") a byddem wrth ein bodd pe byddech chi'n ei ddefnyddio. Mae'r dechnoleg y tu ôl i'r Gwasanaeth a'i weithrediad yn cael ei darparu gan Delib Limited (Delib Ltd). Gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth i bostio eich syniadau neu farn. Fodd bynnag, byddwch yn gyfrifol o ran yr hyn yr ydych yn cyfrannu. Yn arbennig, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw un o'r eitemau gwaharddedig a restrir isod yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gyfraniadau a wnewch i'r Gwasanaeth neu y cewch eich cysylltu â hwy o'r Gwasanaeth (pethau fel spam, firysau, neu gynnwys casineb).Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw gynnwys yr ydych yn credu sy'n torri'r Telerau Defnydd hyn, cysylltwch â ni.Telerau DefnyddDarllenwch y Telerau Defnydd hyn yn ofalus cyn cael mynediad i'r Gwasanaeth neu ei ddefnyddio. Drwy gyrchu neu ddefnyddio unrhyw ran o'r Gwasanaeth, rydych yn cytuno i fod yn rhwym dan y Telerau Defnydd hyn a'r Polisi Cymedroli ac rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a deall y Polisi Preifatrwydd. Os nad ydych yn cytuno â holl delerau ac amodau'r Telerau Defnydd hyn, yna peidiwch â chael mynediad i'r Gwasanaeth na'i ddefnyddio. Mae'r Gwasanaeth ar gael i unigolion sy'n 13 oed o leiaf yn unig.1. Cyfrifoldeb am GyfraniadauOs ydych yn rhoi sylwadau neu syniadau ar y Gwasanaeth, yn postio deunydd i'r Gwasanaeth, yn postio lincs ar y Gwasanaeth, neu fel arall yn gwneud (neu ganiatáu i unrhyw drydydd parti i wneud) deunydd ar gael trwy gyfrwng y Gwasanaeth (unrhyw ddeunydd o'r fath, "Cynnwys") , rydych yn hollol gyfrifol am gynnwys y Cynnwys hwnnw, ac unrhyw niwed sy'n deillio ohono. Mae hynny'n wir waeth a yw'r Cynnwys o dan sylw yn cynnwys testun, graffeg, ffeil sain, neu feddalwedd gyfrifiadurol. Trwy wneud Cynnwys ar gael, rydych yn datgan ac yn gwarantu: a. Ni fydd lawrlwytho, copïo a defnyddio'r Cynnwys yn torri'r hawliau perchnogol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hawlfraint, patent, nod masnach neu hawliau cyfrinachau masnach, unrhyw drydydd parti; Drwy gyflwyno Cynnwys i'r Gwasanaeth, rydych yn cytuno y gall gweithredydd y Gwasanaeth (Delib Ltd) ddefnyddio'r Cynnwys hwnnw ar y Gwasanaeth, a gall hefyd ddiwygio'r Cynnwys. Os ydych yn cyflwyno Cynnwys i'r Gwasanaeth sy'n cynnwys hawlfraint sy'n eiddo i chi, rydych yn cytuno i roi trwydded anghyfyngedig i Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, a Delib Ltd i ddefnyddio'r Cyfraniad hwnnw ac mae'r drwydded hon yn rhad ac am ddim, yn barhaol ac yn galluogi is-drwyddedu. Er y byddwch yn dal yn berchen ar yr hawlfraint yn eich Cyfraniad, bydd gan Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, a Delib Ltd yr hawl i ddefnyddio, golygu, addasu, atgynhyrchu, cyhoeddi a/neu ddosbarthu'n rhydd y deunydd a gynhwysir yn eich Cyfraniad. Rydych hefyd yn cytuno y gall y Cynnwys hwn gael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth neu awdurdodau lleol at ddibenion gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gyhoeddi ymgynghoriadau ac adolygiad barnwrol. Os byddwch yn dileu Cynnwys, byddwn yn defnyddio ymdrechion rhesymol i gael gwared ohono o'r Gwasanaeth, ond rydych yn cydnabod efallai na fydd storio neu gyfeiriadau eraill at y Cynnwys ar gael ar unwaith. Os byddwch yn cyflwyno syniadau neu awgrymiadau, byddwn yn rhydd i'w defnyddio hwy, ynghyd ag unrhyw syniadau neu awgrymiadau tebyg, heb unrhyw gredyd neu ad-daliad i chi. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn rhoi credyd i chi am yr awgrym/syniad. Heb gyfyngu ar unrhyw un o'r sylwadau na gwarantau hynny, mae gennym yr hawl (ond nid y rhwymedigaeth) i, yn ôl ein disgresiwn (i) gwrthod neu dynnu unrhyw Gynnwys sydd, yn ein barn resymol, yn torri unrhyw un o'n polisïau ni neu Delib Ltd neu sydd mewn unrhyw ffordd yn niweidiol neu'n annymunol, neu'n (ii) terfynu neu wrthod mynediad i'r Gwasanaethau i unrhyw unigolyn neu endid am unrhyw reswm, neu'r defnydd ohonynt, yn ôl ein disgresiwn. 2. Cyfrifoldeb Ymwelwyr â'r GwasanaethNid ydym wedi adolygu, ac ni allwn adolygu, yr holl ddeunydd, gan gynnwys meddalwedd cyfrifiadurol, a bostiwyd i'r Gwasanaeth, ac felly ni allwn fod yn gyfrifol am gynnwys, defnydd neu effeithiau'r deunydd hwnnw. Drwy weithredu'r Gwasanaeth, nid ydym yn cynrychioli nac yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo'r deunydd a bostiwyd, nac ein bod yn credu bod deunydd o'r fath yn gywir, yn ddefnyddiol neu'n ddiniwed. Chi sy'n gyfrifol am gymryd rhagofalon yn ôl yr angen i ddiogelu eich hun a'ch systemau cyfrifiadurol rhag firysau, mwydod, ceffylau Trojan, a chynnwys niweidiol neu ddinistriol arall. Er gwaethaf ein hymdrechion, efallai y bydd y Gwasanaeth yn dwyn cynnwys sy'n sarhaus, anweddus, neu fel arall yn annymunol, yn ogystal â chynnwys sy'n cynnwys anghywirdebau technegol, camgymeriadau teipio, a gwallau eraill. Efallai y bydd y Gwasanaeth hefyd yn cynnwys deunydd sy'n torri hawliau preifatrwydd neu gyhoeddusrwydd, neu'n torri hawliau eiddo deallusol a hawliau perchnogol eraill trydydd parti. Mae Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, a Delib Ltd yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed sy'n deillio o ddefnydd ymwelwyr o'r Gwasanaeth, neu o lawrlwytho cynnwys a bostiwyd gan yr ymwelwyr hynny. 3. Cynnwys a Bostiwyd ar Wefannau EraillNid ydym wedi adolygu, ac ni allwn adolygu, yr holl ddeunydd, gan gynnwys meddalwedd gyfrifiadurol, sydd ar gael drwy'r gwefannau a'r tudalennau gwe y mae'r Gwasanaeth yn cysylltu iddynt, ac sy'n cysylltu â'r Gwasanaeth. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y gwefannau a'r tudalennau gwe hynny, ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys neu eu defnydd. Trwy gysylltu â gwefan neu dudalen we trydydd parti, nid ydym yn cynrychioli nac yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo gwefan neu dudalen we o'r fath. Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, a Delib Ltd yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed sy'n deillio o'ch defnydd o wefannau a thudalennau gwe trydydd parti. 4. Polisi Torri HawlfraintYn yr un modd ag yr ydym ni'n gofyn i eraill i barchu ein hawliau eiddo deallusol, rydym ni'n parchu hawliau eiddo deallusol eraill. Os ydych yn credu bod y deunydd a leolir ar y Gwasanaeth, neu y mae'r Gwasanaeth yn cysylltu ag ef yn torri eich hawlfraint chi neu drydydd parti, fe'ch anogir i roi gwybod i ni. Byddwn yn ymateb i bob hysbysiad o'r fath, gan gynnwys fel sy'n ofynnol neu'n briodol drwy gael gwared ar y deunydd perthnasol neu analluogi'r holl lincs i'r deunydd perthnasol. Yn achos ymwelydd a allai dorri'n hawlfreintiau neu'n hawliau eiddo deallusol ninnau neu eraill, neu'n gwneud hynny'n barhaus, mae'n bosibl y byddwn, yn ôl ein disgresiwn, yn terfynu neu'n gwrthod mynediad i'r Gwasanaeth a'r defnydd ohono. 5. Eiddo DeallusolNid yw'r Telerau Defnydd hyn yn trosglwyddo i chi unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y Gwasanaeth, a bydd yr holl hawl, teitl, a budd mewn eiddo o'r fath ac iddo yn aros gyda Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, neu Delib Ltd yn unig. Mae nodau masnach/logos Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, nodau masnach/logos Delib Ltd, a'r holl nodau masnach, nodau gwasanaeth, graffeg a logos eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth, yn nodau masnach neu nodau masnach cofrestredig Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn a/neu Delib Ltd. Gallai nodau masnach, nodau gwasanaeth, graffeg a logos eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth fod yn nodau masnach trydydd partïon eraill. Nid yw eich defnydd o'r Gwasanaeth yn rhoi unrhyw hawl neu drwydded i chi atgynhyrchu neu ddefnyddio unrhyw nodau masnach Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd neu drydydd parti. 6. NewidRydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn, i addasu neu amnewid unrhyw ran o'r Telerau Defnydd hyn. Eich cyfrifoldeb chi yw eu gwirio nhw o dro i dro am newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'r Gwasanaeth neu fynediad ato yn dilyn postio unrhyw newidiadau i'r Telerau Defnydd hyn yn golygu eich bod yn derbyn y newidiadau hynny. Efallai y byddwn hefyd, yn y dyfodol, yn cynnig gwasanaethau a/neu nodweddion newydd drwy'r Gwasanaeth (gan gynnwys cyflwyno offer ac adnoddau newydd). Bydd nodweddion a/neu wasanaethau newydd o'r fath yn destun y Telerau Defnydd hyn. 7. TerfynuMae'n bosibl y byddwn yn terfynu eich mynediad i'r Gwasanaeth cyfan neu unrhyw ran o'r Gwasanaeth ar unrhyw adeg, gyda rheswm neu heb reswm, gyda rhybudd neu heb rybudd, a hynny'n effeithiol ar unwaith. Bydd holl ddarpariaethau'r Telerau Defnydd hyn y dylent yn eu hanfod oroesi terfyniad yn goroesi terfyniad, gan gynnwys, heb gyfyngiad, darpariaethau perchnogaeth, ymwadiadau gwarant, indemniad a chyfyngiadau atebolrwydd. 8. Ymwadiad GwarantauMae'r Gwasanaeth yn cael ei ddarparu "fel y mae". Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd, a'i gyflenwyr a thrwyddedwyr a rhiant-gwmnïau neu gwmnïau cysylltiedig drwy hyn yn gwadu pob gwarant o unrhyw fath, yn ddiamwys neu'n oblygedig, gan gynnwys, heb gyfyngiad, gwarantau marchnadwyedd, ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol a heb dor-cyfraith. Nid yw Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd na'i gyflenwyr a thrwyddedwyr yn gwneud unrhyw warant y bydd y Gwasanaeth yn rhydd o wallau nac y bydd mynediad iddo yn barhaus neu'n ddi-dor. Rydych yn deall eich bod yn llwytho i lawr o'r Gwasanaeth, neu fel arall yn cael cynnwys neu wasanaethau drwyddo, yn ôl eich disgresiwn a'ch risg eich hun. 9. Cyfyngiad ar AtebolrwyddNi fydd Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd, neu ei gyflenwyr neu drwyddedwyr, yn atebol mewn perthynas ag unrhyw destun y Telerau Defnydd hyn dan unrhyw gontract, esgeulustod, theori statudol gyfreithiol neu ecwitïol arall ar gyfer: Ni fydd Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn na Delib Ltd yn atebol am unrhyw fethiant neu oedi oherwydd materion y tu hwnt i'w rheolaeth resymol. Ni fydd yr uchod yn gymwys i'r graddau a waherddir gan y gyfraith berthnasol. 10. Cynrychiolaeth Gyffredinol a GwarantRydych yn datgan ac yn gwarantu (i) bydd eich defnydd o'r Gwasanaeth yn gwbl unol â'r Polisi Preifatrwydd, y Telerau Defnydd hyn, y Polisi Cymedroli a'r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol (gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw gyfreithiau neu reoliadau lleol yn eich gwlad, talaith, dinas, neu ardal lywodraethol arall, ynghylch ymddygiad a chynnwys derbyniol ar-lein, ac yn cynnwys yr holl ddeddfau perthnasol ynghylch trosglwyddo data technegol a allforiwyd o'r Deyrnas Unedig neu'r wlad lle rydych yn byw) a (ii) ni fydd eich defnydd o'r Gwasanaeth yn torri neu'n camddefnyddio hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti. 11. IndemnioRydych yn cytuno i indemnio a dal heb niwed Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd, eu contractwyr, a thrwyddedwyr, a'u cyfarwyddwyr, swyddogion, gweithwyr ac asiantau priodol rhag ac yn erbyn unrhyw a phob atebolrwydd, colledion, iawndal, costau, hawliadau a chostau, gan gynnwys ffioedd cyfreithwyr, sy'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i chithau'n torri'r Telerau Defnydd hyn. 12. AmrywiolMae'r Telerau Defnydd hyn yn ffurfio'r cytundeb cyfan rhwng Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn a chithau yn ymwneud â'r pwnc hwn, a gellir eu haddasu dim ond trwy ddiwygiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan swyddog gweithredol awdurdodedig Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, neu wrth i Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn bostio fersiwn ddiwygiedig. Ac eithrio i'r graddau y mae'r gyfraith berthnasol, os o gwbl, yn darparu fel arall, bydd y Telerau Defnydd hyn, unrhyw fynediad i neu ddefnydd o'r Gwasanaeth yn cael ei lywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr, ac eithrio darpariaethau o ran cyfraith sy'n gwrthdaro, a'r lleoliad priodol ar gyfer unrhyw anghydfod sy'n deillio o hyn neu'n ymwneud ag ef fydd llysoedd Cymru a Lloegr, ac eithrio ar gyfer ceisiadau am ryddhad gwaharddol neu ecwitïol neu hawliadau ynghylch hawliau eiddo deallusol (a allai gael ei ddwyn mewn unrhyw lys cymwys). Os yw unrhyw ran o'r Telerau Defnydd hyn yn cael ei datgan yn annilys neu'n anorfodadwy, bydd y rhan honno yn cael ei dehongli i adlewyrchu bwriad gwreiddiol y partïon, a bydd y rhannau sy'n weddill yn parhau mewn grym ac effaith lawn. Ni fydd ildiad gan y naill barti o unrhyw delerau neu amodau unigol yn y Telerau Defnydd hyn neu unrhyw achos o'u torri, mewn unrhyw un achos, yn hepgor telerau neu amodau unigol o'r fath unrhyw achos dilynol o'u torri. Cewch aseinio eich hawliau o dan y Telerau Defnydd hyn i unrhyw barti sy'n cydsynio i'w delerau ac amodau, ac yn cytuno i fod yn rhwym oddi tanynt; gall Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn aseinio ei hawliau o dan y Telerau Defnydd hyn yn ddiamod. Bydd y Cytundeb yn rhwymol ar y partïon, ac yn gyfarwyddol er eu bod hwy, eu holynwyr a'r rhai y rhoddir caniatâd i aeseinio iddynt. |
We, Medrwn Môn and Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, provide a service called Dialogue App ("the Service") and would love for you to use it. The technology behind the Service and its operation is provided by Delib Limited (Delib Ltd). You can use the Service to post your ideas or opinions. However, be responsible in what you contribute. In particular, make sure that none of the prohibited items listed below are included in any contributions you make to the Service or get linked to from the Service (things like spam, viruses, or hate content). Terms of UsePlease read these Terms of Use carefully before accessing or using the Service. By accessing or using any part of the Service, you agree to become bound by these Terms of Use and the Moderation Policy and you confirm that you have read and understood the Privacy Policy. If you do not agree to all the terms and conditions of these Terms of Use, then do not access or use the Service. The Service is available only to individuals who are at least 13 years old. 1. Responsibility for ContributionsIf you place comments or ideas on the Service, post material to the Service, post links on the Service, or otherwise make (or allow any third party to make) material available by means of the Service (any such material, "Content"), you are entirely responsible for the content of, and any harm resulting from, that Content. That is the case regardless of whether the Content in question constitutes text, graphics, an audio file, or computer software. By making Content available, you represent and warrant that: a. The downloading, copying, and use of the Content will not infringe the proprietary rights, including but not limited to the copyright, patent, trademark, or trade secret rights, of any third party; By submitting Content to the Service, you agree that the operator of the Service (Delib Ltd) can use that Content on the Service, and may also amend that Content. If you submit Content to the Service which contains copyright owned by you, you agree to grant Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, and Delib Ltd a non-exclusive license to use that Contribution, and this license is free of charge, perpetual, and capable of sub-license. Although you will still own the copyright in your Contribution, Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, and Delib Ltd will have the right to freely use, edit, alter, reproduce, publish, and/or distribute the material contained in your Contribution. You also agree that this Content may be used by Government or local authorities for purposes including but not limited to the publication of consultations and judicial review. If you delete Content, we will use reasonable efforts to remove it from the Service, but you acknowledge that caching or other references to the Content may not be made immediately unavailable. If you submit ideas or suggestions, we will be free to use them and any similar ideas or suggestions without any credit or recompense to you. However, we may give you credit for the suggestion/idea. Without limiting any of those representations or warranties, we have the right (though not the obligation) to, in our sole discretion (i) refuse or remove any Content that, in our reasonable opinion, violates any of our or Delib Ltd policies or is in any way harmful or objectionable, or (ii) terminate or deny access to and use of the Services to any individual or entity for any reason, in our sole discretion. 2. Responsibility of Service VisitorsWe have not reviewed, and cannot review, all of the material, including computer software, posted to the Service, and cannot therefore be responsible for that material's content, use, or effects. By operating the Service, we do not represent or imply that we endorse the material posted, or that we believe such material to be accurate, useful, or non-harmful. You are responsible for taking precautions to protect yourself and your computer systems from viruses, worms, Trojan horses, and other harmful or destructive content. Despite our efforts, the Service may contain content that is offensive, indecent, or otherwise objectionable, as well as content containing technical inaccuracies, typographical mistakes, and other errors. The Service may also contain material that violates privacy, publicity rights, or intellectual property rights. Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, and Delib Ltd disclaim any responsibility for harm resulting from the use of the Service or any downloading by visitors of posted content. 3. Content Posted on Other WebsitesWe have not reviewed, and cannot review, all of the material, including computer software, made available through the websites and webpages to which the Service links, and that link to the Service. We do not have any control over those third-party websites and webpages, and we are not responsible for their contents or their use. By linking to a third-party website or webpage, we do not represent or imply that we endorse such a website or webpage. Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, and Delib Ltd disclaim any responsibility for any harm resulting from your use of third-party websites and webpages. 4. Copyright Infringement PolicyAs we ask others to respect our intellectual property rights, we respect the intellectual property rights of others. If you believe that material located on or linked to by the Service violates your or a third party's copyright, you are encouraged to notify us. We will respond to all such notices, including as required or appropriate by removing the infringing material or disabling all links to the infringing material. In the case of a visitor who may infringe or repeatedly infringe the copyrights or other intellectual property rights of ours or others, we may, in our discretion, terminate or deny access to and use of the Service. 5. Intellectual PropertyThese Terms of Use do not transfer to you any intellectual property rights in the Service, and all right, title, and interest in and to such property will remain solely with Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, or Delib Ltd. Medrwn Môn and Cymdeithas Elusennol Ynys Môn trademarks/logos, Delib Ltd trademarks/logos, and all other trademarks, service marks, graphics, and logos used in connection with the Service, are trademarks or registered trademarks of Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn and/or Delib Ltd. Other trademarks, service marks, graphics, and logos used in connection with the Service may be the trademarks of other third parties. Your use of the Service grants you no right or license to reproduce or otherwise use any Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd, or third-party trademarks. 6. ChangesWe reserve the right, at our sole discretion, to modify or replace any part of these Terms of Use. It is your responsibility to check them periodically for changes. Your continued use of or access to the Service following the posting of any changes to these Terms of Use constitutes acceptance of those changes. We may also, in the future, offer new services and/or features through the Service (including the release of new tools and resources). Such new features and/or services shall be subject to these Terms of Use. 7. TerminationWe may terminate your access to all or any part of the Service at any time, with or without cause, with or without notice, effective immediately. All provisions of these Terms of Use which by their nature should survive termination shall survive termination, including, without limitation, ownership provisions, warranty disclaimers, indemnity, and limitations of liability. 8. Disclaimer of WarrantiesThe Service is provided "as is". Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd, and their suppliers and licensors hereby disclaim all warranties of any kind, express or implied, including, without limitation, the warranties of merchantability, satisfactory quality, fitness for a particular purpose, and non-infringement. Neither Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd nor their suppliers and licensors make any warranty that the Service will be error-free or that access thereto will be continuous or uninterrupted. You understand that you download from, or otherwise obtain content or services through, the Service at your own discretion and risk. 9. Limitation of LiabilityIn no event will Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd, or their suppliers or licensors, be liable with respect to any subject matter of these Terms of Use under any contract, negligence, statutory, or other legal or equitable theory for: Neither Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn nor Delib Ltd shall have liability for any failure or delay due to matters beyond their reasonable control. The foregoing shall not apply to the extent prohibited by applicable law. 10. General Representation and WarrantyYou represent and warrant that (i) your use of the Service will be in strict accordance with the Privacy Policy, these Terms of Use, the Moderation Policy, and with all applicable laws and regulations (including without limitation any local laws or regulations in your country, state, city, or other governmental area, regarding online conduct and acceptable content, and including all applicable laws regarding the transmission of technical data exported from the United Kingdom or the country in which you reside) and (ii) your use of the Service will not infringe or misappropriate the intellectual property rights of any third party. 11. IndemnificationYou agree to indemnify and hold harmless Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Delib Ltd, their contractors, licensors, and respective directors, officers, employees, and agents from and against any and all liabilities, losses, damages, costs, claims, and expenses, including lawyers' fees, arising out of your use of the Service, including but not limited to your violation of these Terms of Use. 12. MiscellaneousThese Terms of Use constitute the entire agreement between Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn and you concerning the subject matter hereof, and they may only be modified by a written amendment signed by an authorized executive of Medrwn Môn or Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, or by the posting by Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn of a revised version. Except to the extent applicable law, if any, provides otherwise, these Terms of Use, any access to or use of the Service will be governed by the laws of England and Wales excluding its conflict of law provisions, and the proper venue for any disputes arising out of or relating to any of the same will be the English and Welsh courts, except for claims for injunctive or equitable relief or claims regarding intellectual property rights (which may be brought in any competent court). If any part of these Terms of Use is held invalid or unenforceable, that part will be construed to reflect the parties' original intent, and the remaining portions will remain in full force and effect. A waiver by either party of any term or condition of these Terms of Use or any breach thereof, in any one instance, will not waive such term or condition or any subsequent breach thereof. You may assign your rights under these Terms of Use to any party that consents to, and agrees to be bound by, its terms and conditions; Medrwn Môn, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn may assign their rights under these Terms of Use without condition. This Agreement will be binding upon and will inure to the benefit of the parties, their successors, and permitted assigns. |